Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Newidiadau i Gyfradd y Comisiwn ar Gartrefi mewn Parciau

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Yn fuan cyn y toriad, cyhoeddais grynodeb o'r ymatebion i'n hymgynghoriad ar gyfradd comisiwn cartrefi mewn parciau ac amlinellais fy mwriad i ostwng y gyfradd uchaf. Rwy'n falch o allu rhoi mwy o fanylion i'r aelodau am gyflymder a graddfa'r newid ac am y camau gweithredu ehangach y bwriadaf eu cymryd i gefnogi'r sector cartrefi mewn parciau. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i ymateb i'r ymgynghoriad a'r gwaith dadansoddi ariannol—cafwyd bron i 400 o ymatebion. Hoffwn hefyd ddiolch i'r perchnogion safleoedd a rannodd gwybodaeth ariannol â'n dadansoddwr ariannol annibynnol.

Bydd yr Aelodau yn gyfarwydd â llawer o'r dadleuon ar ddwy ochr y ddadl. Rwy'n siŵr bod pob un ohonom ni eisiau sicrhau bod y safleoedd hyn yn hyfyw ac yn cael eu rheoli'n dda a'u gweld yn parhau i gynnig ffordd o fyw deniadol i bobl sy'n dewis byw mewn cartref mewn parc. Mae mater y cyfraddau comisiwn ar werthu cartrefi mewn parciau yn un o'r materion hynny sy'n parhau i hollti barn. Mae wedi'i drafod cyhyd ag y mae pobl wedi defnyddio cartrefi mewn parciau fel preswylfeydd barhaol. Yn y 1960au, roedd y cyfraddau arferol oddeutu 20 y cant, ac fe wnaethant ostwng i'w cyfradd bresennol, sef 10 y cant, yn y 1980au. Dros y 40 mlynedd diwethaf, mae'r sector wedi'i drawsnewid; mae byw mewn cartref mewn parc bellach heddiw yn gwbl wahanol i fyw mewn cartref mewn parc yn y 1960au.

Ni fu modd sefydlu consensws ynghylch y ffordd ymlaen oherwydd bod safbwyntiau pobl mor begynol. Ac ni fu'n hawdd casglu digon o dystiolaeth i seilio penderfyniad cytbwys arni. Rwyf wedi trafod yn hir ac yn drylwyr, ac rwyf wedi herio fy swyddogion a'r sector i ddarparu tystiolaeth well a mwy o waith dadansoddi er mwyn sicrhau ein bod yn canfod ffordd ymlaen sy'n gytbwys ac yn gymesur ac sy'n cefnogi byw mewn cartrefi mewn parciau yn y modd gorau.

Mae'r dystiolaeth sydd gennym erbyn hyn yn ategu'r farn bod gwerth cartref mewn parc yn gyfuniad o werth y cartref ynghyd â'r llain y mae wedi'i leoli arno. Mae cartref parc ar ei ben ei hun yn costio llai nag un sydd eisoes wedi'i leoli, yn enwedig os yw wedi'i leoli ar safle deniadol sy'n cael ei redeg yn dda â chyfleusterau da mewn lleoliad dymunol. Gall costau lleoli cartref fod yn sylweddol. Mae hyn wedi bod yn rhan sylfaenol o'r ddadl o blaid y gyfradd comisiwn dros y blynyddoedd.

Mae'n amlwg bod y gyfradd comisiwn bresennol yn effeithio'n sylweddol ar bobl sydd yn berchen ar gartref mewn parc. I rai, mae colli ecwiti wrth werthu eu cartrefi yn dod yn rhwystr i allu gwerthu a symud ymlaen i lety arall neu i lety sy'n fwy addas ar eu cyfer. Gallai comisiwn hefyd fod yn atal darpar brynwyr rhag prynu cartref mewn parc, gan eu bod yn poeni am y goblygiadau o ran colli 10 y cant o'i werth os oes angen ei werthu yn y dyfodol. Mae hyn i gyd yn peri risg y gallai byw mewn cartref mewn parc ddod yn llai deniadol ac na fydd bellach yn cynnig dewis ffordd o fyw amgen.

Mae'r dadansoddiad ariannol annibynnol a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru yn dangos bod comisiwn yn elfen bwysig o incwm perchnogion safleoedd, a bod hynny'n arbennig o wir ar safleoedd llai. Mae'n rhaid i unrhyw benderfyniad ynglŷn â newidiadau i'r gyfradd comisiwn felly sicrhau cydbwysedd rhwng y manteision a'r risgiau posibl i'r ddau barti—perchnogion cartrefi mewn parciau a pherchnogion safleoedd. Pe na byddai safle yn hyfyw mwyach, byddai angen i'r perchenogion ystyried sut i newid eu model busnes er mwyn ei wneud yn gynaliadwy, fel arfer drwy geisio cynyddu'r ffioedd am leiniau. Y risg yn y pen draw, os bydd safle anhyfyw yn cau, yw y bydd hynny'n gadael perchnogion cartrefi mewn parc heb lain ac yn gorfod symud eu cartrefi. Gall hyn fod yn drefniant cymhleth a chostus, a gall cartrefi heb lain fod werth llai o arian.

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu cael cartrefi addas, o ansawdd da sy'n ddiogel ac yn fforddiadwy. Bydd gostwng y gyfradd comisiwn uchaf yn helpu i symud y rhwystrau ariannol i drigolion sydd eisiau neu sydd angen gwerthu. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau nad yw darpar brynwyr yn cael eu hatal rhag prynu cartref mewn parc oherwydd eu bod nhw'n poeni ynglŷn â sut y bydd yn effeithio arnyn nhw, pe byddai angen iddyn nhw ei werthu yn y dyfodol. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol o'r angen i osgoi rhoi safleoedd mewn sefyllfa lle maen nhw mewn perygl o gau, gan hefyd geisio diogelu preswylwyr rhag cynnydd serth a sydyn yn y ffioedd am leiniau. Mae'n fwriad gennyf i ostwng y gyfradd comisiwn i lefel uchaf newydd o 5 y cant. Caiff hyn ei wneud drwy weithredu lleihad o un pwynt canran yn y gyfradd comisiwn bob blwyddyn dros gyfnod o bum mlynedd.

Bydd y rheoliadau a fydd yn cyflawni hyn yn destun gwaith craffu gan weithdrefn gadarnhaol y Cynulliad hwn, a byddaf yn cyflwyno rheoliadau cyn gynted â phosibl yn y flwyddyn newydd. Rwy'n credu bod y dull hwn yn taro cydbwysedd resymol wrth ddiogelu buddiannau pob parti. Bydd gostwng y gyfradd comisiwn yn raddol yn helpu i leihau'r risgiau i hyfywedd rhai safleoedd drwy roi amser i berchnogion safle addasu eu modelau busnes i adlewyrchu'r newid hwn, ac rwy'n derbyn y gallai'r addasiad hwn gynnwys cynnydd yn y ffioedd am leiniau i rai. Rwyf wedi ystyried yn ofalus y galwadau gan rai i ddefnyddio'r pwerau yn Neddf 2013 i gyfyngu ar unrhyw gynnydd posibl mewn ffioedd am leiniau, ond rwyf wedi penderfynu yn erbyn y camau gweithredu hyn.

Mae'r broses hon wedi amlygu amrywiaeth o faterion llawer ehangach sy'n ymwneud ag arferion gwael honedig gan rai perchnogion safleoedd ac amrywiadau wrth weithredu Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013. Rwy'n bwriadu cyhoeddi gwybodaeth wedi'i diweddaru am fyw mewn cartref mewn parc, sy'n canolbwyntio ar ddarparu canllawiau clir a hygyrch i bawb. Gan weithio gyda'r sector, byddaf yn datblygu deunyddiau arfer gorau a fydd yn edrych ar sut y gallwn ni gryfhau swyddogaeth LEASE wrth ddarparu cyngor. Byddaf yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn mabwysiadu dulliau cyson o drwyddedu a gorfodi safleoedd. Mae gennym enghraifft wych o gydweithio yn y sector rhentu preifat gyda Rhentu Doeth Cymru yn awdurdod arweiniol. Byddaf yn ystyried beth y gallwn ni ei ddysgu o'r model hwn a allai fod o fantais i'r sector cartrefi preswyl mewn parciau.

Llywydd, rydym ni i gyd am weld safleoedd hyfyw sy'n cael eu rheoli'n dda sy'n cynnig dewis ffordd o fyw deniadol i'r rheini sy'n dewis byw mewn cartref mewn parc. Rwy'n credu y gall gostyngiad graddol yn y gyfradd comisiwn, wedi'i gefnogi gan welliannau mewn gwybodaeth, cyngor a chymorth, a safonau cyson a glynu at y ddeddfwriaeth bresennol, helpu i gyflawni yr union beth hynny.